![]() |
Y Weledigaeth |
Datganiad o Fwriad Bwriad Ysgol Y Bedol yw gwella’r cyfle i bawb gael cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy’n peri awydd i afael mewn a hyrwyddo hoffter tuag at ddysgu gydol oes gan y disgyblion, y teuluoedd a’r gymuned yn gyffredinol. Trwy gynnal ymgynghoriad effeithiol bydd Ysgol Y Bedol yn chwilio’n ddiwyd am ddulliau i ffurfio cysylltiadau a chynnal partneriaethau effeithiol er mwyn ymateb i anghenion y disgyblion, eu teuluoedd a’r gymuned rydym yn ei gwasanaethu. Gobeithiwn y bydd y gwasanaeth a gynigir gan Ysgol Y Bedol yn profi i fod yn fodd i beri newid, gan ysgogi a chynnal ymaddasiad diwylliannol yn y gymuned leol. Gan fod cymuned Cwmaman wedi elwa’n ddiweddar trwy nifer o gynlluniau buddsoddiad/grantiau, mae’n gyfle amserol i ganolbwyntio ar swyddogaeth ein hysgol yn y gymuned a’i datblygu. Daw’r cyfle i’r ysgol i lunio partneriaethau gydag amrywiaeth eang o wasanaethau eraill. Bydd rhai o’r gwasanaethau hyn wedi eu lleoli yn yr ysgol neu’n gweithredu yn y gymuned gyfagos yng Nghwmaman. Y bwriad yw cydweithio’n agos gyda darparwyr i drin ag iechyd a materion cymdeithasol yn effeithiol ar lefel mwy lleol. Bydd y ddarpariaeth hon yn cynyddu swyddogaeth yr ysgol a chael effaith uniongyrchol ar fywydau ein teuluoedd a’u plant. Mae Ysgol Y Bedol yn amcanu at ddarparu cyfleusterau, gwybodaeth a chyfleoedd nad ydynt ar gael ar hyn o bryd. Bydd darpariaeth gofal plant yn rhan bwysig o’n swyddogaeth yn y datblygiad hwn a fydd yn galluogi’r teuluoedd i gael darpariaeth gofal plant o safon uchel ynghyd â chyfle ar gyfer hwy eu hunain. Bydd Ysgol Y Bedol, ynghyd â’r Ganolfan Gymunedol yng Nglanaman, yn cynnal swyddogaeth ganolog wrth gefnogi cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth ar gyfer y gymuned leol trwy ddarparu cyrsiau hamdden, cyfleoedd magu plant a chyrsiau achrededig. Bydd hyn, mae’n amlwg, yn dibynnu ar gynnal partneriaethau gyda cholegau lleol yn y dalgylch. Ni fydd gweithgareddau’r ysgol ‘estynedig’, fodd bynnag, yn tynnu’r pwyslais oddi wrth brif weithgaredd yr ysgol o godi cyraeddiadau ein disgyblion. Bydd y cyfleoedd dysgu ‘estynedig’ ar gyfer pawb yn meithrin awydd am addysg a llwyddiant ac yn ceisio codi hunan-barch a dyheadau ein cymuned gyfan. Bydd cyfleoedd dysgu ‘estynedig’ yn ehangu a gwella cwricwlwm yr ysgol a chefnogi dysgu wedi’i phersonoli ar gyfer pawb. I sicrhau bod pawb yn teimlo’n gyfforddus a diogel yn yr amgylchedd hwn, bydd yr ysgol yn talu sylw manwl i’r dulliau a ddefnyddir i hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer y gymuned leol, gan fod llawer o bobl wedi cael profiadau cymysg iawn mewn ysgolion ac ym myd addysg yn y gorffennol. Bydd gweithio’n agos gyda’r gymuned yn hanfodol a bydd yn rhaid i’r ysgol edrych yn ofalus iawn ar y dulliau a ddefnyddiwn i hyrwyddo gweithgareddau, i bwy y cynigir hwy, a sut fydd bwrw ati’r eilwaith yn rhoddi profiad positif a buddiol i bawb. Mae hwn yn gyfnod cynhyrfus i Ysgol Y Bedol. Mae swyddogaethau
a dyletswyddau yn cael eu hadolygu’n gyson a phartneriaethau newydd
yn cael eu creu.
|